17 Dyna pryd bydd balchder y ddynoliaeth yn cael ei dynnu i lawr,a hunanhyder pobl yn syrthio.Dim ond yr ARGLWYDDfydd yn cael ei ganmol bryd hynny!
18 Bydd yr eilunod diwerth yn diflannu.
19 Bydd pobl yn mynd i guddio mewn ogofâu yn y creigiaua thyllau yn y ddaear –rhag i ysblander a mawredd yr ARGLWYDDeu dychryn pan fydd yn dodac yn gwneud i'r ddaear grynu.
20 Bryd hynny bydd poblyn taflu'r eilunod arian a'r eilunod auri'r tyrchod daear a'r ystlumod –yr eilunod wnaethon nhw eu gwneud i'w haddoli.
21 Byddan nhw'n mynd i guddio mewn ogofâu yn y creigiau,a hafnau yn y clogwyni,rhag i ysblander a mawredd yr ARGLWYDDeu dychryn pan fydd yn dodac yn gwneud i'r ddaear grynu.
22 Peidiwch rhoi'ch ffydd mewn poblsydd â dim byd ond anadl yn eu ffroenau!Achos pa werth sydd iddyn nhw?