2 Yn y dyfodol, bydd mynydd teml yr ARGLWYDDwedi ei osod yn ben ar y mynyddoedd eraill,a'i godi'n uwch na'r bryniau.Bydd y gwledydd i gyd yn llifo yno,
3 a llawer o bobl yn mynd yno a dweud:“Dewch! Gadewch i ni ddringo Mynydd yr ARGLWYDD,a mynd i deml Duw Jacob,iddo ddysgu ei ffyrdd i ni,ac i ninnau fyw fel mae e am i ni fyw.”Achos o Seion y bydd yr arweiniad yn dod,a neges yr ARGLWYDD o Jerwsalem.
4 Bydd e'n barnu achosion rhwng y cenhedloeddac yn setlo dadleuon rhwng pobloedd lawer.Byddan nhw'n curo eu cleddyfau yn sychau aradra'u gwaywffyn yn grymanau tocio.Fydd gwledydd ddim yn ymladd ei gilydd,nac yn hyfforddi milwyr i fynd i ryfel.
5 Bobl Jacob – Dewch!gadewch i ni fyw yng ngolau'r ARGLWYDD.
6 Achos rwyt ti wedi gwrthod dy bobl,pobl Jacob,am eu bod nhw'n llawn o ofergoelion y dwyrain;yn dweud ffortiwn fel y Philistiaidac yn gwneud busnes gydag estroniaid.
7 Mae'r wlad yn llawn o arian ac aur,does dim diwedd ar eu trysorau;Mae'r wlad yn llawn o feirch rhyfel,does dim diwedd ar eu cerbydau rhyfel.
8 Mae'r wlad yn llawn eilunod diwerth,ac maen nhw'n plygu i addoli gwaith eu dwylo –pethau maen nhw eu hunain wedi eu creu!