8 Mae'r wlad yn llawn eilunod diwerth,ac maen nhw'n plygu i addoli gwaith eu dwylo –pethau maen nhw eu hunain wedi eu creu!
9 Bydd pobl yn cael eu darostwnga pawb yn cywilyddio –paid maddau iddyn nhw!
10 Ewch i guddio yn y graig,a claddu eich hunain yn y llwch,rhag i ysblander a mawredd yr ARGLWYDDeich dychryn chi!
11 Bydd y ddynoliaeth yn cael ei darostwng am ei balchder,a hunanhyder pobl feidrol yn cael ei dorri.Dim ond yr ARGLWYDD fydd yn cael ei ganmolbryd hynny!
12 Mae gan yr ARGLWYDD holl-bwerus ddiwrnod arbennigi ddelio gyda pob un balch a snobyddlyd,a phawb sy'n canmol eu hunain – i dorri eu crib nhw!
13 Bydd yn delio gyda cedrwydd Libanus,sydd mor dal ac urddasol;gyda choed derw Bashan;
14 gyda'r holl fynyddoedd uchela'r bryniau balch;