1 Roedd hi'r flwyddyn yr anfonodd Sargon, brenin Asyria, ei brif swyddog milwrol i ymosod ar dref Ashdod, a'i choncro.
2 Dyma'r ARGLWYDD yn siarad gydag Eseia fab Amos, a dweud, “Dos, datod y sachliain oddi amdanat, a tynna dy sandalau i ffwrdd.” A dyma Eseia yn gwneud hynny, a cherdded o gwmpas yn noeth a heb ddim am ei draed.
3 Yna dyma'r ARGLWYDD yn dweud, “Arwydd ydy hwn sy'n rhybudd i'r Aifft a Teyrnas Cwsh yn Nwyrain Affrica: Fel mae fy ngwas Eseia wedi cerdded o gwmpas am dair blynedd yn noeth a heb ddim am ei draed,
4 bydd brenin Asyria yn arwain yr Eifftiaid i ffwrdd, ac yn caethgludo pobl Cwsh – ifanc a hen, yn noeth a heb ddim am eu traed, a'u tinau yn y golwg – bydd yn sarhad ar yr Aifft!