12 Atebodd y gwyliwr,“Mae'r bore yn dod, ond daw'r nos yn ôl.Os ydych chi am ofyn eto, gofynnwch.Trowch! Dewch yn ôl!”
13 Neges am Arabia.Cuddiwch yn nrysni'r anialwch,chi grwydriaid Dedan!
14 Rhowch ddiod o ddŵr i'r sychedig,chi sy'n byw yn Tema;rhowch fara i'r ffoaduriaid,
15 achos maen nhw'n dianc rhag y rhyfel:rhag y cleddyf wedi ei dynnu o'r wain,rhag y bwa sy'n barod i saethu,a rhag caledi'r frwydr.
16 Achos dyma ddwedodd fy Meistr wrtho i: “Mewn blwyddyn union bydd ysblander Cedar wedi darfod;
17 nifer fach iawn o arwyr Cedar sy'n saethu gyda'r bwa fydd ar ôl.” Mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, wedi dweud.