2 Cafodd gweledigaeth erchyllei rhoi i mi:“Mae'r bradwr yn bradychu,a'r dinistrydd yn dinistrio!Ymlaen, Elam!Gwarchae arni, Media!Dw i am roi taw ar y griddfan mae wedi ei achosi.”
3 Yn sydyn, mae fy nghorff yn ddolur i gyd;Mae poenau yn gafael yno ifel gwraig mewn poen wrth gael babi.Dw i wedi fy llethu gan beth dw i'n ei glywed,ac wedi dychryn gan beth dw i'n ei weld.
4 Mae'r galon yn pwmpio a dw i'n crynu mewn panig.Mae fy mreuddwyd am wawr newydd wedi troi'n hunllef:
5 Mae “Trefnwch wledd”wedi troi'n “Gosodwch wylwyr!”“Bwytwch ac yfwch!”wedi troi'n “Codwch swyddogion! Paratowch y tariannau!”
6 Achos dyma ddwedodd y Meistr wrtho i:“Dos, gosod wyliwr i edrych allan,a dweud beth mae'n ei weld.
7 Pan fydd yn gweld cerbyd gyda phâr o geffylau,marchog ar asyn neu farchog ar gamel,dylai ddal sylw a gwylio'n ofalus.”
8 Yna dyma'r gwyliwr yn gweiddi'n uchel:“Meistr, dw i wedi sefyll ar y tŵr gwylio drwy'r dydd,ac wedi edrych allan bob nos.