8 Yna dyma'r gwyliwr yn gweiddi'n uchel:“Meistr, dw i wedi sefyll ar y tŵr gwylio drwy'r dydd,ac wedi edrych allan bob nos.
9 Ac edrych draw! Mae rhywun yn dod –Dyn mewn cerbydgyda phâr o geffylau!”Ac mae'n gweiddi'n uchel,“Mae wedi syrthio!Mae Babilon wedi syrthio!Mae'r delwau o'i holl dduwiauyn ddarnau mân ar lawr!”
10 Chi sydd wedi dioddef –fy mhobl ar fy llawr dyrnu:Dw i wedi dweud wrthoch chibeth glywais i gan yr ARGLWYDD holl-bwerus,Duw Israel.
11 Neges am Dwma.Mae rhywun yn galw arna i o Seir:“Wyliwr, faint o'r nos sydd ar ôl?Wyliwr, faint o'r nos sydd ar ôl?”
12 Atebodd y gwyliwr,“Mae'r bore yn dod, ond daw'r nos yn ôl.Os ydych chi am ofyn eto, gofynnwch.Trowch! Dewch yn ôl!”
13 Neges am Arabia.Cuddiwch yn nrysni'r anialwch,chi grwydriaid Dedan!
14 Rhowch ddiod o ddŵr i'r sychedig,chi sy'n byw yn Tema;rhowch fara i'r ffoaduriaid,