15 Mae fy Meistr, yr ARGLWYDD holl-bwerus yn dweud:“Dos i ofyn i'r swyddog,y Shefna yna sy'n gyfrifol am y palas:
16 ‘Beth sy'n digwydd yma?Pwy roddodd ganiatâd i ti dorri bedd i ti dy hun yma?Torri bedd i ti dy hun mewn lle pwysig;Naddu lle i ti dy hun gael gorffwys yn y graig!
17 Mae'r ARGLWYDD yn mynd i dy daflu di i ffwrdd –dy hyrddio di'n bell, ti bwysigyn!Bydd yn dy lapio di'n dynn,
18 yn dy rolio i fyny fel pelenac yn dy daflu i ffwrdd i wlad eang iawn!A dyna ble byddi di'n marw.Yr unig gerbydau crand i gario dy gorfffydd y cywilydd ddaeth ar dŷ dy feistr!
19 Dw i'n mynd i dy ddiswyddo di!Byddi di'n cael dy fwrw i lawr o dy safle!
20 Bryd hynny bydda i'n galw ar fy ngwas Eliacim fab Chilceia,
21 ac yn ei arwisgo fe gyda dy grys di, a'r sash sydd am dy ganol. Bydda i'n rhoi dy awdurdod di iddo fe, a bydd e'n gofalu am bawb sy'n byw yn Jerwsalem a pobl Jwda i gyd.