22 Bydda i'n rhoi allwedd tŷ Dafydd iddo. Fydd neb yn gallu cau yr hyn mae'n ei agor, nac agor yr hyn mae e'n ei gau.
23 Bydda i'n ei osod yn gadarn yn ei le – fel hoelen wedi ei tharo i wal. Bydd e'n cael y sedd anrhydedd yn nhŷ ei dad.
24 Bydd y cyfrifoldeb am deulu ei dad arno fe: pawb, o'r egin a'r dail; bydd y llestri bach i gyd, y powlenni a'r gwahanol jariau yn hongian arno.’”
25 “Bryd hynny,”—meddai'r ARGLWYDD holl-bwerus—“bydd yr hoelen oedd mor sownd yn dod yn rhydd. Bydd yn cael ei thorri a bydd yn syrthio, a bydd y llwyth oedd yn hongian arni yn cael ei dynnu i lawr.” Mae'r ARGLWYDD wedi dweud!