4 Dyna pam dw i'n dweud,“Gadewch lonydd i mi!gadewch i mi wylo'n chwerw.Peidiwch boddran ceisio fy nghysuroam fod fy mhobl druan wedi eu dinistrio.”
5 Ydy, mae fy Meistr, yr ARGLWYDD holl-bwerus,wedi trefnu diwrnod o banig, sathru, a dryswch –yn Nyffryn y Weledigaeth mae sŵn waliau'n syrthio,a pobl yn gweiddi ar y mynydd.
6 Mae Elam wedi codi'r gawell saethau,gyda'i marchogion a'i cherbydau,ac mae milwyr Cir wedi paratoi eu tariannau.
7 Mae dy ddyffrynnoedd, dy dir gorau,yn llawn o gerbydau,a'r marchogion yn rhengoedd tu allan i'r giatiau.
8 Mae'r sgrîn oedd yn amddiffyn Jwda wedi ei symud.Felly, bryd hynny, dyma chi'n myndi Blas y Goedwig, i nôl yr arfau oedd wedi eu storio.
9 Roeddech chi'n gweld fod llawer iawn o fylchauyn waliau Dinas Dafydd.Felly dyma gasglu dŵr o'r Llyn Isaf,
10 cyfri'r tai yn Jerwsalema chwalu rhai er mwyn gwneud waliau'r ddinas yn ddiogel.