6 Mae Elam wedi codi'r gawell saethau,gyda'i marchogion a'i cherbydau,ac mae milwyr Cir wedi paratoi eu tariannau.
7 Mae dy ddyffrynnoedd, dy dir gorau,yn llawn o gerbydau,a'r marchogion yn rhengoedd tu allan i'r giatiau.
8 Mae'r sgrîn oedd yn amddiffyn Jwda wedi ei symud.Felly, bryd hynny, dyma chi'n myndi Blas y Goedwig, i nôl yr arfau oedd wedi eu storio.
9 Roeddech chi'n gweld fod llawer iawn o fylchauyn waliau Dinas Dafydd.Felly dyma gasglu dŵr o'r Llyn Isaf,
10 cyfri'r tai yn Jerwsalema chwalu rhai er mwyn gwneud waliau'r ddinas yn ddiogel.
11 Yna adeiladu cronfa rhwng y ddwy wali ddal dŵr yr hen lyn.Ond wnaethoch chi ddim cymryd sylw o'r Un wnaeth y cwbl,na meddwl am yr Un oedd wedi cynllunio hyn ers talwm.
12 Bryd hynny dyma fy Meistr, yr ARGLWYDD holl-bwerus,yn galw ar bobl i wylo a galaru,i siafio'r pen a gwisgo sachliain.