9 Roeddech chi'n gweld fod llawer iawn o fylchauyn waliau Dinas Dafydd.Felly dyma gasglu dŵr o'r Llyn Isaf,
10 cyfri'r tai yn Jerwsalema chwalu rhai er mwyn gwneud waliau'r ddinas yn ddiogel.
11 Yna adeiladu cronfa rhwng y ddwy wali ddal dŵr yr hen lyn.Ond wnaethoch chi ddim cymryd sylw o'r Un wnaeth y cwbl,na meddwl am yr Un oedd wedi cynllunio hyn ers talwm.
12 Bryd hynny dyma fy Meistr, yr ARGLWYDD holl-bwerus,yn galw ar bobl i wylo a galaru,i siafio'r pen a gwisgo sachliain.
13 Ond yn lle hynny roedd hwyl a miri,lladd gwartheg a defaid,bwyta cig ac yfed gwin.“Gadewch i ni gael parti ac yfed!Falle byddwn ni'n marw fory!”
14 Roeddwn i wedi clywed yr ARGLWYDD holl-bwerus yn dweud: “Fydd dim byd yn gwneud iawn am y pechod yma nes i chi farw,”Ie, dyna ddwedodd fy Meistr, yr ARGLWYDD holl-bwerus.
15 Mae fy Meistr, yr ARGLWYDD holl-bwerus yn dweud:“Dos i ofyn i'r swyddog,y Shefna yna sy'n gyfrifol am y palas: