4 Cywilydd arnat ti, Sidon!achos mae'r môr – y gaer ddiogel honno – wedi dweud,“Fi ydy'r un sydd heb ddiodde poenauwrth gael plant.Dw i heb fagu bechgyn ifancna merched ifanc!”
5 Pan fydd yr Aifft yn clywed am y pethbyddan nhw'n gwingo mewn poenwrth glywed am Tyrus.
6 Croeswch drosodd i Tarshish –Udwch, chi sy'n byw ar yr arfordir!
7 Ai dyma'r ddinas gawsoch chi'r fath firi ynddi? –y ddinas sydd a hanes mor hen iddi?Ai hon deithiodd mor bell i fasnachu?
8 Pwy drefnodd i hyn ddigwydd i Tyrus,y ddinas oedd yn gwisgo coron,a'i masnachwyr yn dywysogionac yn bobl mor bwysig?
9 Yr ARGLWYDD holl-bwerus drefnodd y peth –i ddirmygu ei balchder yn ei harddwch,a chodi cywilydd ar y bobl bwysig i gyd.
10 Hwyliwch adre bobl Tarshish,i drin eich tir fel y rhai sy'n ffermio wrth yr Afon Nil;does dim harbwr i chi yma bellach.