8 Pwy drefnodd i hyn ddigwydd i Tyrus,y ddinas oedd yn gwisgo coron,a'i masnachwyr yn dywysogionac yn bobl mor bwysig?
9 Yr ARGLWYDD holl-bwerus drefnodd y peth –i ddirmygu ei balchder yn ei harddwch,a chodi cywilydd ar y bobl bwysig i gyd.
10 Hwyliwch adre bobl Tarshish,i drin eich tir fel y rhai sy'n ffermio wrth yr Afon Nil;does dim harbwr i chi yma bellach.
11 Pan gododd yr ARGLWYDD ei law dros y môrgwnaeth i deyrnasoedd grynu mewn ofn!Yr ARGLWYDD roddodd orchymyni ddinistrio trefi caerog Canaan.
12 Dwedodd,“Dyna ddigon o dy rialtwchferch Sidon, sydd wedi ei gorthrymu.”Dos! cod, a chroesa drosodd i Cyprus,Ond fyddi di ddim yn cael llonydd yno chwaith!
13 Edrychwch ar wlad Babilonia –y bobl sydd wedi peidio â bod!Rhoddodd Asyria nhw i'r anifeiliaid gwylltion.Codi tyrau i warchae arni,ysbeilio ei phlastai a'i throi yn adfeilion.
14 Udwch, longau masnach Tarshish,achos mae eich caer ddiogel wedi ei dinistrio!