1 Edrych! Mae'r ARGLWYDDyn difetha'r tir a'i adael yn wag!Mae'n ei droi â'i ben i lawr,ac yn gwasgaru'r rhai sy'n byw arno.
2 Bydd yr un peth yn digwyddi'r offeiriad ac i'r bobl gyffredin,i'r gwas a'i feistr,i'r forwyn a'i meistres,i'r gwerthwr a'r prynwr,i'r benthyciwr a'r un sy'n benthyg,i'r credydwr a'r un mewn dyled.
3 Bydd y tir yn hollol wag –wedi ei ysbeilio'n llwyr.Yr ARGLWYDD sydd wedi dweud.
4 Mae'r tir yn sych; mae'n gwywo.Mae'r byd yn gwanio; mae'n gwywo.Mae ei phobl bwysica yn wan.
5 Mae'r tir ei hun wedi ei lygrugan y rhai sy'n byw arno.Maen nhw wedi anwybyddu'r ddysgeidiaeth,newid y deddfau,a thorri'r ymrwymiad oedd i fod am byth.
6 Dyna pam mae'r wlad wedi ei melltithio'n llwyr,a'i phobl yn cael eu cosbi.Dyna pam mae'r rhai sy'n byw ar y tir wedi diflannu,nes bod bron neb ar ôl.