14 Ond bydd rhai'n codi eu lleisiauac yn gweiddi'n llawen!Bydd rhai'n canu clod o'r gorllewinam fod yr ARGLWYDD mor fawreddog.
15 Felly, addolwch yr ARGLWYDD yn y dwyrainac ar arfordir ac ynysoedd y gorllewin –addolwch enw'r ARGLWYDD, Duw Israel.
16 Mae canu i'w glywedo ben draw'r byd:“Mae'r Un Cyfiawn mor wych!”Ond wedyn dw i'n dweud:“Mae ar ben arna i! Mae ar ben arna i! Gwae fi!Mae bradwyr yn bradychu!Bradwyr yn bradychu â'u brad!”
17 Panig, pydew a thrapi bawb sy'n byw yn y wlad!
18 Bydd pawb sy'n ffoi mewn dychrynyn disgyn i lawr i dwll.A bydd pawb sy'n dringo o'r twllyn cael ei ddal mewn trap!Mae'r llifddorau wedi eu hagor yn yr awyr,ac mae sylfeini'r ddaear yn crynu.
19 Mae'r tir wedi cracio drosto;mae wedi hollti'n ddarnau,ac yn cael ei erydu'n llwyr.
20 Mae'r tir yn gwegian fel meddwyn,ac yn sigledig fel cwt gwyliwr.Bydd yn cael ei lorio gan euogrwydd,Bydd yn syrthio, a byth yn codi eto!