1 ARGLWYDD, ti ydy fy Nuw i!Dw i'n dy ganmol di! Dw i'n moli dy enw!Ti wedi gwneud peth rhyfeddol –rhywbeth gafodd ei gynllunio ymhell yn ôl;ti'n gwbl ddibynadwy!
2 Ti wedi troi dinas y gelyn yn bentwr o gerrig!Troi'r gaer amddiffynnol yn adfeilion!Gaiff y palas estron byth ei ailadeiladu!
3 Felly bydd gwledydd cryfion yn dy anrhydeddu di!A threfi'r cenhedloedd creulon yn dy barchu di!
4 Ond rwyt ti'n dal yn lle diogel i'r rhai tlawd guddio;yn lle i'r anghenus gysgodi mewn argyfwng –yn lloches rhag y storm, cysgod rhag gwres yr haul.Pan mae pobl greulon yn ein taro fel storm o law trwm,
5 neu fel gwres yr haul yn crasu'r tir,rwyt ti'n tewi twrw'r estroniaid.Mae fel cysgod cwmwl yn dod i leddfu'r gwres,ac mae cân y gormeswr creulon yn cael ei dewi.
6 Ar y mynydd hwn bydd yr ARGLWYDD holl-bwerusyn paratoi gwledd o fwyd blasusi'r cenhedloedd i gyd.Gwledd o winoedd aeddfed –bwyd blasus gyda'r gwin gorau.
7 Ar y mynydd hwn bydd yn dinistrio'r llensy'n gorchuddio wynebau'r bobloedd,a'r gorchudd sy'n bwrw cysgoddros y cenhedloedd i gyd.