1 Bryd hynny, bydd y gân hon yn cael ei chanu yng ngwlad Jwda:Mae gynnon ni ddinas gref;achubiaeth ydy ei waliau mewnol ac allanol hi.
2 Agorwch y giatiau,i'r genedl gyfiawn ddod i mewna gweld ei ffyddlondeb.
3 Mae'r rhai sy'n dy drystio diyn gallu bod yn hollol dawel eu meddwl.
4 Trystiwch yr ARGLWYDD bob amser,achos wir, mae'r ARGLWYDD yn graig am byth.