1 Bryd hynny, bydd y gân hon yn cael ei chanu yng ngwlad Jwda:Mae gynnon ni ddinas gref;achubiaeth ydy ei waliau mewnol ac allanol hi.
2 Agorwch y giatiau,i'r genedl gyfiawn ddod i mewna gweld ei ffyddlondeb.
3 Mae'r rhai sy'n dy drystio diyn gallu bod yn hollol dawel eu meddwl.
4 Trystiwch yr ARGLWYDD bob amser,achos wir, mae'r ARGLWYDD yn graig am byth.
5 Mae'n tynnu'r rhai balch i lawr.Mae'n gwneud i'r ddinas saff syrthio –syrthio i'r llawr nes bydd yn y llwch.
6 Mae'n cael ei sathru dan draed –traed y rhai anghenus,a sodlau y rhai tlawd.
7 Mae'r llwybr yn wastad i'r un sy'n gwneud beth sy'n iawn;rwyt ti'n gwneud ffordd y cyfiawn yn llyfn.