16 ARGLWYDD, pan oedd hi'n argyfwng arnyn nhwdyma nhw'n dy geisio di.Roeddet ti wedi eu ceryddu nhwam yr holl sibrwd swynion.
17 Roedden ni o dy flaen di, O ARGLWYDD,fel gwraig ar fin cael plentyn,yn gwingo ac yn sgrechian mewn poen.
18 Ond os oedden ni'n feichiog, os oedden ni'n gwingo,doedden ni'n geni dim byd ond gwynt.Gafodd y wlad mo'i hachub;a doedd dim plant wedi eu geni i fyw yn y tir.
19 Ond bydd dy feirw di yn dod yn fyw!Bydd cyrff marw yn codi eto!Deffrwch a chanwch yn llawen,chi sy'n byw yn y pridd!Bydd dy olau fel gwlith y boreyn rhoi bywyd i dir y meirwon.
20 Ewch, fy mhobl!Ewch i'ch ystafelloedd,a chloi'r drysau ar eich hôl.Cuddiwch am funud fach,nes i'w lid basio heibio.
21 Achos mae'r ARGLWYDD yn dod allani gosbi pobl y ddaear am eu drygioni.Bydd y tir yn dangos y trais fu arno,a ddim yn cuddio'r rhai gafodd eu lladd byth mwy.