6 Mae'n cael ei sathru dan draed –traed y rhai anghenus,a sodlau y rhai tlawd.
7 Mae'r llwybr yn wastad i'r un sy'n gwneud beth sy'n iawn;rwyt ti'n gwneud ffordd y cyfiawn yn llyfn.
8 Dŷn ni'n edrych atat ti, O ARGLWYDD, i wneud y peth iawn;cofio dy enw di ydy'n hiraeth dyfnaf ni.
9 Yn y nos dw i'n dyheu amdanat o waelod calon,mae'r cwbl sydd ynof yn dy geisio di'n daer;achos pan mae'r hyn sy'n iawn yn dy olwg di'n cael ei wneud yn y wlad,maen nhw'n dysgu beth sy'n iawn i bawb yn y byd.
10 Pan mae'r un sy'n gwneud drwg yn cael ei esgusodi,dydy e ddim yn dysgu beth sy'n iawn.Mae'n dal i wneud drwg mewn gwlad o bobl onest –dydy e'n dangos dim parch at fawredd yr ARGLWYDD.
11 ARGLWYDD, rwyt ar fin gweithreduond dŷn nhw ddim wedi sylwi.Gad iddyn nhw gywilyddio wrth welddy sêl dros dy bobl,a'th dân yn llosgi dy elynion.
12 O ARGLWYDD!Ti wedi rhoi heddwch perffaith i ni;Ti sydd wedi cyflawni'r cwbl ar ein rhan ni!