9 Yn y nos dw i'n dyheu amdanat o waelod calon,mae'r cwbl sydd ynof yn dy geisio di'n daer;achos pan mae'r hyn sy'n iawn yn dy olwg di'n cael ei wneud yn y wlad,maen nhw'n dysgu beth sy'n iawn i bawb yn y byd.
10 Pan mae'r un sy'n gwneud drwg yn cael ei esgusodi,dydy e ddim yn dysgu beth sy'n iawn.Mae'n dal i wneud drwg mewn gwlad o bobl onest –dydy e'n dangos dim parch at fawredd yr ARGLWYDD.
11 ARGLWYDD, rwyt ar fin gweithreduond dŷn nhw ddim wedi sylwi.Gad iddyn nhw gywilyddio wrth welddy sêl dros dy bobl,a'th dân yn llosgi dy elynion.
12 O ARGLWYDD!Ti wedi rhoi heddwch perffaith i ni;Ti sydd wedi cyflawni'r cwbl ar ein rhan ni!
13 O ARGLWYDD ein Duw,mae meistri eraill wedi bod yn ein rheoli ni,ond dim ond ti oedden ni'n ei gydnabod.
14 Mae'r lleill wedi marw, a fyddan nhw ddim yn byw;cysgodion ydyn nhw, a wnân nhw byth godi.Ti wnaeth benderfynu eu tynged nhw,eu dinistrio nhw a chael gwared â phob atgof ohonyn nhw.
15 Ti wedi gwneud i'r genedl dyfu, O ARGLWYDD,Ti wedi gwneud i'r genedl dyfu, ac ennill anrhydedd i ti dy hun.Ti wedi estyn ffiniau'r wlad.