10 Mae'r ddinas gaerog wedi ei gadael yn wag;cartrefi gwag wedi eu gadael fel tir diffaith.Mae lloi yn pori yno, yn gorwedd i lawrac yn bwyta popeth sydd ar y canghennau.
11 Yna mae'r brigau'n sychu, ac yn torri;ac mae merched yn dod ac yn cynnau tân hefo nhw.Pobl oedd ddim yn deall oedden nhw;felly doedd Duw'n dangos dim trugaredd,doedd eu Crëwr yn dangos dim caredigrwydd atyn nhw.
12 Bryd hynny, bydd yr ARGLWYDD yn ysgwyd y goeden, o Afon Ewffrates i Wadi'r Aifft; a byddwch chi, blant Israel, yn cael eich casglu bob yn un!
13 Bryd hynny, bydd y corn hwrdd yn cael ei ganu; bydd y rhai oedd ar goll yng ngwlad Asyria, a'r rhai oedd wedi cael eu gyrru i wlad yr Aifft, yn dod i addoli'r ARGLWYDD ar y mynydd cysegredig, yn Jerwsalem.