3 Fi, yr ARGLWYDD, sy'n gofalu amdani,ac yn ei dyfrio hi bob amser.Dw i'n ei gwylio hi nos a dydd,rhag i rywun wneud niwed iddi.
4 Dw i ddim yn ddig bellach:Petai rhywun yn rhoi drain a mieri i mi,byddwn yn mynd allan i ryfel yn eu herbyn,ac yn eu llosgi nhw'n ulw.
5 Ond os ydyn nhw am i mi eu hamddiffyn nhw,rhaid iddyn nhw wneud heddwch hefo fi;ie, rhaid iddyn nhw wneud heddwch hefo fi.
6 Mae'r amser yn dod pan fydd Jacob yn bwrw gwreiddiau,ac Israel yn tyfu ac yn blodeuo –bydd y byd i gyd yn llawn o'i ffrwyth.
7 Gafodd e ei daro fel yr un wnaeth ei daro fe?Wnaeth e ddiodde lladdfa debyg i'r un wnaeth ei ladd e?
8 Cafodd ei yrru i ffwrdd a'i gaethgludo i'w alw i gyfrif.Cafodd ei chwythu i ffwrdd gan wynt cryfar ddydd y storm.
9 Felly, dyma sut mae gwneud iawn am fai Jacob,a dyma fydd canlyniad symud ei bechod:Bydd cerrig yr allor yn cael eu malu i gydfel petaen nhw'n garreg galch –a polion y dduwies Ashera a'r llestri dal arogldarthwedi eu torri i gyd.