1 Gwae Samaria!Bydd coron falch meddwon Effraim yn syrthio,a'i harddwch yn ddim ond blodau wedi gwywo –blodau oedd yn tyfu ar ben dyffryn ffrwythlon.Maen nhw'n chwil gaib!
2 Edrychwch! Mae gan y Meistr un cryf a dewrsydd fel storm o genllysg, ie, drycin ddinistriol –fel storm pan mae'r glaw yn arllwys i lawrac yn bwrw popeth i'r llawr.
3 Bydd coron falch meddwon Effraimwedi ei sathru dan draed,
4 a'i blodau wedi gwywo –y blodau oedd yn tyfu ar ben dyffryn ffrwythlon.Byddan nhw fel ffigysen gynnarcyn i'r cynhaeaf ddod.Bydd rhywun yn sylwi arniac yn ei llyncu yr eiliad mae'n gafael ynddi.