10 Dim ond ailadrodd llythrennau'r wyddor,‘a, b,’ ‘a, b,’‘c, ch, d,’ ‘c, ch, d’tyrd yma, bach; fan yma, bach!”
11 O'r gorau, bydd yn siarad gyda nhwfel un yn siarad yn aneglur mewn iaith estron.
12 Roedd wedi dweud wrthyn nhw:“Dyma le saff, lle i'r blinedig orffwys;dyma le i chi orwedd i lawr.”Ond doedd neb yn fodlon gwrando.
13 Felly dyma neges yr ARGLWYDD iddyn nhw:“‘a, b,’ ‘a, b,’‘c, ch, d,’ ‘c, ch, d’tyrd yma, bach; fan yma, bach!”Wrth geisio mynd yn eu blaenaubyddan nhw'n syrthio ar eu tinau,yn cael eu dryllio a'u rhwymo a'u dal.
14 Felly dyma neges yr ARGLWYDDi chi sy'n gwawdio;chi arweinwyr y bobl yn Jerwsalem!
15 Chi sy'n brolio,“Dŷn ni wedi gwneud cytundeb gyda Marwolaeth,a taro bargen i osgoi'r bedd.Pan fydd y dinistr yn ysgubo trwodd,fydd e ddim yn ein cyffwrdd ni.Dŷn ni wedi gwneud twyll yn lle i guddio,a chelwydd yn lle saff i gysgodi.”
16 Dyma mae fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud:“Edrychwch, dw i'n mynd i osod carreg yn Seion,carreg ddiogel,conglfaen gwerthfawr,sylfaen hollol gadarn.Fydd pwy bynnag sy'n credu ddim yn panicio.