14 Felly dyma neges yr ARGLWYDDi chi sy'n gwawdio;chi arweinwyr y bobl yn Jerwsalem!
15 Chi sy'n brolio,“Dŷn ni wedi gwneud cytundeb gyda Marwolaeth,a taro bargen i osgoi'r bedd.Pan fydd y dinistr yn ysgubo trwodd,fydd e ddim yn ein cyffwrdd ni.Dŷn ni wedi gwneud twyll yn lle i guddio,a chelwydd yn lle saff i gysgodi.”
16 Dyma mae fy Meistr, yr ARGLWYDD, yn ei ddweud:“Edrychwch, dw i'n mynd i osod carreg yn Seion,carreg ddiogel,conglfaen gwerthfawr,sylfaen hollol gadarn.Fydd pwy bynnag sy'n credu ddim yn panicio.
17 Bydda i'n gwneud cyfiawnder yn llinyn mesur,a tegwch yn llinyn plwm.Bydd cenllysg yn ysgubo'r twyll, sef eich lle i guddio,a bydd dŵr y llifogydd yn boddi'ch lle saff i gysgodi.
18 Bydd eich cytundeb hefo Marwolaeth yn cael ei dorri,a'ch bargen gyda'r bedd yn chwalu.Pan fydd y dinistr yn ysgubo trwodd,chi fydd yn diodde'r difrod.
19 Bydd yn eich taro chibob tro y bydd yn dod heibio.Bydd yn dod un bore ar ôl y llall,bob dydd a bob nos.”Bydd deall y neges ymayn achosi dychryn ofnadwy.
20 Mae'r gwely'n rhy fyr i ymestyn arno,a'r garthen yn rhy gul i rywun ei lapio amdano!