19 Bydd yn eich taro chibob tro y bydd yn dod heibio.Bydd yn dod un bore ar ôl y llall,bob dydd a bob nos.”Bydd deall y neges ymayn achosi dychryn ofnadwy.
20 Mae'r gwely'n rhy fyr i ymestyn arno,a'r garthen yn rhy gul i rywun ei lapio amdano!
21 Bydd yr ARGLWYDD yn codifel y gwnaeth ar Fynydd Peratsîm;bydd yn cyffroi i wneud ei waithfel y gwnaeth yn Nyffryn Gibeon –ond bydd yn waith rhyfedd!Bydd yn cyflawni'r dasg –ond bydd yn dasg ddieithr!
22 Felly, stopiwch wawdio,rhag i'ch rhwymau gael eu tynhau.Dw i wedi clywed fy Meistr, yr ARGLWYDD holl-bwerus,yn gorchymyn dinistrio'r wlad gyfan.
23 Gwrandwch yn astud ar hyn!Gwnewch yn siŵr eich bod yn clywed be dw i'n ddweud.
24 Ydy'r sawl sy'n aredigyn aredig drwy'r amser heb hau?Ydy e'n troi'r tir a'i lyfnu'n ddi-baid?
25 Ar ôl ei lefelu, onid ydy e'ngwasgaru ffenigl a hadau cwmin?Onid ydy e'n hau gwenith mewn rhes,haidd yn ei le, a sbelt yn ei wely?