22 Felly, stopiwch wawdio,rhag i'ch rhwymau gael eu tynhau.Dw i wedi clywed fy Meistr, yr ARGLWYDD holl-bwerus,yn gorchymyn dinistrio'r wlad gyfan.
23 Gwrandwch yn astud ar hyn!Gwnewch yn siŵr eich bod yn clywed be dw i'n ddweud.
24 Ydy'r sawl sy'n aredigyn aredig drwy'r amser heb hau?Ydy e'n troi'r tir a'i lyfnu'n ddi-baid?
25 Ar ôl ei lefelu, onid ydy e'ngwasgaru ffenigl a hadau cwmin?Onid ydy e'n hau gwenith mewn rhes,haidd yn ei le, a sbelt yn ei wely?
26 Ei Dduw sy'n ei ddysgu;mae'n dysgu'r ffordd iawn iddo.
27 Dydy ffenigl ddim yn cael ei ddyrnu gyda sled,na cwmin gydag olwyn trol.Mae ffenigl yn cael ei guro hefo ffon,a cwmin gyda gwialen.
28 Mae gwenith yn cael ei falu,ond ddim yn ddiddiwedd.Mae olwyn trol yn rholio trosto,ond dydy'r ceffylau ddim yn ei sathru.