25 Ar ôl ei lefelu, onid ydy e'ngwasgaru ffenigl a hadau cwmin?Onid ydy e'n hau gwenith mewn rhes,haidd yn ei le, a sbelt yn ei wely?
26 Ei Dduw sy'n ei ddysgu;mae'n dysgu'r ffordd iawn iddo.
27 Dydy ffenigl ddim yn cael ei ddyrnu gyda sled,na cwmin gydag olwyn trol.Mae ffenigl yn cael ei guro hefo ffon,a cwmin gyda gwialen.
28 Mae gwenith yn cael ei falu,ond ddim yn ddiddiwedd.Mae olwyn trol yn rholio trosto,ond dydy'r ceffylau ddim yn ei sathru.
29 A'r ARGLWYDD holl-bwerus sydd wedi trefnu hyn hefyd –Mae ganddo gynllun gwych,ac mae'n rhyfeddol o ddoeth.