5 Bryd hynny,bydd yr ARGLWYDD holl-bwerus yn goron hardd,ac yn dorch wedi ei phlethu'n hyfrydi'r bobl fydd wedi eu gadael ar ôl.
6 Bydd yn rhoi arweiniad i'r un sy'n eistedd i farnu,a nerth i'r rhai sy'n amddiffyn giatiau'r ddinas.
7 Ond mae'r rhain wedi meddwi'n gaib ar win;maen nhw'n chwil ar ôl yfed cwrw.Mae'r offeiriad a'r proffwydwedi meddwi'n gaib ar gwrwa drysu'n lân ar win.Maen nhw'n chwil ar ôl yfed cwrw,a'i gweledigaethau'n ddryslyd;maen nhw'n baglu wrth farnu.
8 Mae chwŷd a charthiondros y byrddau i gyd,does dim lle'n lân o gwbl.
9 “Pwy mae e'n gallu ei ddysgu?I bwy fyddai e'n gallu esbonio rhywbeth?I blantos bachsydd newydd ddod oddi ar y frest?
10 Dim ond ailadrodd llythrennau'r wyddor,‘a, b,’ ‘a, b,’‘c, ch, d,’ ‘c, ch, d’tyrd yma, bach; fan yma, bach!”
11 O'r gorau, bydd yn siarad gyda nhwfel un yn siarad yn aneglur mewn iaith estron.