1 Gwae Ariel!Ariel, y ddinas ble roedd Dafydd yn byw!Mae'r blynyddoedd yn mynd heibioa'r gwyliau yn pasio yn eu tro.
2 Ond dw i'n mynd i'w phoenydio,a bydd yn griddfan ac ochneidio.Bydd Ariel yn allor i aberthu i mi.
3 Bydda i'n gwersylla o dy gwmpas,yn gwarchae arnat hefo byddinac offer gwarchae i ymosod arnat ti.
4 Byddi'n cael dy dynnu i lawr, a byddi'n galw o'r pridd;bydd dy eiriau fel rhywun yn mwmian o'r llwch.Byddi'n swnio fel ysbryd yn codi o'r pridd,bydd dy eiriau fel rhywun yn sibrwd o'r llwch.