10 Mae'r ARGLWYDD wedi'ch gwneud chi'n gysglyd.Mae e wedi cau eich llygaid chi'r proffwydi,Ac wedi rhoi mwgwd dros eich pennau chi sy'n cael gweledigaethau.
11 Mae pob gweledigaeth fel neges mewn dogfen sydd wedi ei selio. Mae'n cael ei roi i rywun sy'n gallu darllen, a gofyn iddo, “Darllen hwn i mi”, ond mae hwnnw'n ateb, “Alla i ddim, mae wedi ei selio”.
12 Yna mae'n cael ei roi i rywun sydd ddim yn gallu darllen, a gofyn i hwnnw, “Darllen hwn i mi”, a'i ateb e ydy “Dw i ddim yn gallu darllen.”
13 Dyma ddwedodd y Meistr:Mae'r bobl yma'n dod ata iac yn dweud pethau gwych amdana i,ond mae eu calonnau'n bell oddi wrtho i.Dydy eu haddoliad nhw yn ddim ondtraddodiad dynol wedi ei ddysgu iddyn nhw.
14 Felly, dw i'n mynd i syfrdanu'r bobl ymadro ar ôl tro gyda un rhyfeddod ar ôl y llall.Ond bydd doethineb y deallus yn darfod,a chrebwyll pobl glyfar wedi ei guddio.
15 Gwae'r rhai sy'n ceisio cuddio eu cynlluniauoddi wrth yr ARGLWYDD!Y rhai sy'n gweithio yn y tywyllwch,ac yn dweud, “Pwy sy'n ein gweld ni?”“Pwy sy'n gwybod amdanon ni?”
16 Dych chi mor droëdig!Ydy'r crochenydd i gael ei ystyried fel clai?Fel petai'r hyn gafodd ei greu yn dweud am yr un a'i gwnaeth,“Wnaeth e mohono i!”Neu'r hyn gafodd ei siapio yn dweud am yr un â'i siapiodd,“Dydy e'n deall dim!”