17 Yn fuan iawn, oni fydd Libanusyn cael ei throi yn berllan,a Carmel yn cael ei ystyried yn goedwig.
18 Bryd hynny, bydd y byddar yn clywed geiriau o lyfr,a bydd llygaid pobl ddall yn gweldar ôl bod mewn tywyllwch dudew.
19 Bydd y rhai sy'n cael eu gorthrymuyn llawenhau yn yr ARGLWYDD,a'r bobl dlotaf yn gorfoledduyn Un Sanctaidd Israel.
20 Fydd dim gormeswyr o hynny ymlaen,a bydd y rhai sy'n gwawdio yn peidio â bod;bydd pawb sy'n dal ati i wneud drwgyn cael eu torri i ffwrdd.
21 Y rhai sy'n gwneud i rywun edrych fel troseddwr,ac yn gosod trap i'r un sy'n erlyn yn y llys wrth giatiau'r ddinas,a gwneud iddo droi ymaith achos cyfiawngyda dadl wag.
22 Felly, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud wrth Deulu Jacob – y Duw brynodd ryddid i Abraham:Fydd Jacob ddim yn cael ei gywilyddio eto!Fydd ei wyneb ddim yn gwelwi eto!
23 Achos pan fyddan nhw'n gweld eu planta beth fydda i wedi ei wneud yn eu plith,byddan nhw'n anrhydeddu fy enw i.Bydd pobl yn anrhydeddu Un Sanctaidd JacobAc yn dangos parch go iawn at Dduw Israel.