21 Y rhai sy'n gwneud i rywun edrych fel troseddwr,ac yn gosod trap i'r un sy'n erlyn yn y llys wrth giatiau'r ddinas,a gwneud iddo droi ymaith achos cyfiawngyda dadl wag.
22 Felly, dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud wrth Deulu Jacob – y Duw brynodd ryddid i Abraham:Fydd Jacob ddim yn cael ei gywilyddio eto!Fydd ei wyneb ddim yn gwelwi eto!
23 Achos pan fyddan nhw'n gweld eu planta beth fydda i wedi ei wneud yn eu plith,byddan nhw'n anrhydeddu fy enw i.Bydd pobl yn anrhydeddu Un Sanctaidd JacobAc yn dangos parch go iawn at Dduw Israel.
24 Bydd y rhai sydd wedi mynd ar gyfeiliorn yn dod i ddeall,a'r rhai sy'n cwyno o hyd wedi dysgu gwers.