4 Byddi'n cael dy dynnu i lawr, a byddi'n galw o'r pridd;bydd dy eiriau fel rhywun yn mwmian o'r llwch.Byddi'n swnio fel ysbryd yn codi o'r pridd,bydd dy eiriau fel rhywun yn sibrwd o'r llwch.
5 A bydd y dyrfa greulon ddaeth yn dy erbynyn cael eu malu fel llwch mân.Bydd y dyrfa o ormeswyrfel us yn cael ei chwythu i ffwrdd.Yn sydyn, mewn chwinciad,
6 bydd yr ARGLWYDD holl-bwerus yn eu cosbigyda tharan, daeargryn, a sŵn byddarol;gyda corwynt, storm, a thân yn dinistrio.
7 A bydd yr holl genhedloedd wnaeth ryfela yn erbyn Ariel– ymosod arni, ei gwarchae a'i gormesu –fel breuddwyd, neu weledigaeth yn y nos.
8 Bydd fel rhywun sy'n llwgu yn breuddwydio ei fod yn bwyta,ac yna'n deffro a'i fol yn dal yn wag;neu rywun sydd â syched arno yn breuddwydio ei fod yn yfed,ac yna'n deffro yn teimlo'n wan a'i geg yn sych grimp.Felly bydd hi ar yr holl genhedloeddsy'n rhyfela yn erbyn Mynydd Seion.
9 Arhoswch. Cewch eich syfrdanu!Ydych chi'n hollol ddall?Wedi meddwi – ond ddim ar win!Yn chwil – ond ddim ar gwrw!
10 Mae'r ARGLWYDD wedi'ch gwneud chi'n gysglyd.Mae e wedi cau eich llygaid chi'r proffwydi,Ac wedi rhoi mwgwd dros eich pennau chi sy'n cael gweledigaethau.