1 Edrychwch!Mae'r Meistr, yr ARGLWYDD holl-bwerusyn mynd i gymryd o Jerwsalem a Jwdabopeth sy'n eu cynnal a'u cadw nhw:bwyd a dŵr,
2 arwyr a milwyr dewr;barnwr a phroffwyd,yr un sy'n dewino a'r arweinydd;
3 grŵp-gapten a swyddog,strategydd a hudwr medrus,a'r un sy'n sibrwd swynau.
4 Bydda i'n rhoi bechgyn i lywodraethu arnyn nhw,a bwlis creulon i'w rheoli nhw.
5 Bydd y bobl yn gorthrymu ei gilydd –un yn erbyn y llall.Bydd pobl ifanc yn ymosod ar henoed,a phobl gyffredin yn ymosod ar y bonheddig.
6 Bydd dyn yn gafael yn ei gyfaillyn nhŷ ei dad, a dweud:“Mae gen ti got –bydd di'n feistr arnon ni.Cei di wneud rhywbeth o'r llanast ma,”