13 Mae'r ARGLWYDD yn sefyll i ddadlau ei achos,mae'n codi ar ei draed i farnu'r bobloedd.
14 Mae'r ARGLWYDD yn dod â'r cyhuddiad ymayn erbyn arweinwyr a thywysogion ei bobl:“Chi ydy'r rhai sydd wedi dinistrio'r winllan!Mae'r hyn sydd wedi ei ddwyn oddi ar y tlawdyn eich tai chi.
15 Sut allech chi feiddio sathru fy mhobl i,a gorthrymu'r rhai tlawd?”—meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD holl-bwerus.
16 Yna dwedodd yr ARGLWYDD:“Mae merched Seion mor falch,yn dal eu pennau i fyny,yn fflyrtian â'u llygaidac yn cerdded gyda chamau bach awgrymog,a'u tlysau ar eu traed yn tincian wrth iddyn nhw fynd”
17 Felly bydd y Meistr yn gwneud i rashddod ar bennau merched Seion.Bydd yr ARGLWYDD yn siafio eu talcennau nhw.
18 Bryd hynny, bydd yr ARGLWYDD yn cael gwared â'u tlysau nhw – y tlysau traed, y rhubanau, yr addurniadau siâp cilgant,
19 y clustdlysau, y breichledau, a'r fêl;