17 Felly bydd y Meistr yn gwneud i rashddod ar bennau merched Seion.Bydd yr ARGLWYDD yn siafio eu talcennau nhw.
18 Bryd hynny, bydd yr ARGLWYDD yn cael gwared â'u tlysau nhw – y tlysau traed, y rhubanau, yr addurniadau siâp cilgant,
19 y clustdlysau, y breichledau, a'r fêl;
20 y dïadem, y cadwyni, a'r sash; y ffiolau persawr a'r swynoglau;
21 y sêl-fodrwy a'r fodrwy drwyn;
22 y dillad hardd, y mentyll, a'r siôl; y pyrsiau,
23 y gwisgoedd sidan, a'r dillad lliain; y twrban a'r glogyn.