3 grŵp-gapten a swyddog,strategydd a hudwr medrus,a'r un sy'n sibrwd swynau.
4 Bydda i'n rhoi bechgyn i lywodraethu arnyn nhw,a bwlis creulon i'w rheoli nhw.
5 Bydd y bobl yn gorthrymu ei gilydd –un yn erbyn y llall.Bydd pobl ifanc yn ymosod ar henoed,a phobl gyffredin yn ymosod ar y bonheddig.
6 Bydd dyn yn gafael yn ei gyfaillyn nhŷ ei dad, a dweud:“Mae gen ti got –bydd di'n feistr arnon ni.Cei di wneud rhywbeth o'r llanast ma,”
7 Ond bydd y llall yn protestio, ac yn dweud,“Alla i ddim gwella'ch briwiau chi,does gen i ddim bwyd yn y tŷa does gen i ddim côt chwaith.Peidiwch gwneud fi yn feistr arnoch chi!”
8 Mae Jerwsalem yn gwegian,a Jwda wedi syrthio,am ddweud a gwneud pethauyn erbyn yr ARGLWYDD,a herio ei fawredd.
9 Mae eu ffafriaeth wrth farnu yn tystio yn eu herbyn;maen nhw'n arddangos eu pechod fel Sodom,heb geisio cuddio dim!Gwae nhw! Maen nhw wedidod â dinistr arnyn nhw eu hunain.