8 Mae Jerwsalem yn gwegian,a Jwda wedi syrthio,am ddweud a gwneud pethauyn erbyn yr ARGLWYDD,a herio ei fawredd.
9 Mae eu ffafriaeth wrth farnu yn tystio yn eu herbyn;maen nhw'n arddangos eu pechod fel Sodom,heb geisio cuddio dim!Gwae nhw! Maen nhw wedidod â dinistr arnyn nhw eu hunain.
10 Dywed:Bydd hi'n dda ar y rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn;byddan nhw'n cael bwyta ffrwyth eu gweithredoedd.
11 Ond gwae y rhai sy'n gwneud drwg,bydd pethau'n ddrwg arnyn nhw;byddan nhw'n cael blas o'r hyn wnaethon nhw i bobl eraill.
12 Bydd plant yn feistri ar fy mhobl,a merched yn eu rheoli.O fy mhobl!mae dy arweinwyr yn dy gamarwain;maen nhw wedi dy ddrysu.
13 Mae'r ARGLWYDD yn sefyll i ddadlau ei achos,mae'n codi ar ei draed i farnu'r bobloedd.
14 Mae'r ARGLWYDD yn dod â'r cyhuddiad ymayn erbyn arweinwyr a thywysogion ei bobl:“Chi ydy'r rhai sydd wedi dinistrio'r winllan!Mae'r hyn sydd wedi ei ddwyn oddi ar y tlawdyn eich tai chi.