1 “Gwae chi blant ystyfnig!” meddai'r ARGLWYDD –“yn gwneud cynlluniau sy'n groes i be dw i eisiau,a ffurfio cynghreiriau wnes i mo'i hysbrydoli!A'r canlyniad? –pentyrru un pechod ar y llall!
2 Rhuthro i lawr i'r Aifft heb ofyn i mi,a gofyn i'r Pharo eu hamddiffyna'u cuddio dan gysgod yr Aifft.
3 Ond bydd cael y Pharo i amddiffyn yn codi cywilydd,a bydd cuddio dan gysgod yr Aifft yn siom mawr,
4 er bod ganddo swyddogion yn Soana llysgenhadon mor bell â Chanes.
5 Cânt eu cywilyddio'n llwyram fod yr Aifft yn dda i ddim iddyn nhw –dim help o gwbl!Fyddan nhw'n elwa dim,ond yn profi siom a chywilydd.”