1 “Gwae chi blant ystyfnig!” meddai'r ARGLWYDD –“yn gwneud cynlluniau sy'n groes i be dw i eisiau,a ffurfio cynghreiriau wnes i mo'i hysbrydoli!A'r canlyniad? –pentyrru un pechod ar y llall!
2 Rhuthro i lawr i'r Aifft heb ofyn i mi,a gofyn i'r Pharo eu hamddiffyna'u cuddio dan gysgod yr Aifft.
3 Ond bydd cael y Pharo i amddiffyn yn codi cywilydd,a bydd cuddio dan gysgod yr Aifft yn siom mawr,
4 er bod ganddo swyddogion yn Soana llysgenhadon mor bell â Chanes.
5 Cânt eu cywilyddio'n llwyram fod yr Aifft yn dda i ddim iddyn nhw –dim help o gwbl!Fyddan nhw'n elwa dim,ond yn profi siom a chywilydd.”
6 Neges am "Anifeiliaid y Negef":Yn nhir trafferthion a chaledi,gwlad y llewes a'r llew cry,y neidr a'r wiber wibiog,maen nhw'n cario eu cyfoeth ar gefn asynnod,a'u trysorau ar gefn camelod,ar ran pobl sy'n dda i ddim.