13 bydd y bai yma fel wal uchel yn bochio,ac yn sydyn, mewn chwinciad, mae'n syrthio.
14 Bydd yn torri'n ddarnau,fel jwg pridd yn cael ei falu'n deilchion –bydd wedi darfod.Fydd dim un darn yn ddigon o fainti godi marwor o badell dân,neu wagio dŵr o bwll.
15 Dyma mae'r Meistr, yr ARGLWYDD, Un Sanctaidd Israel, yn ei ddweud:“Os trowch yn ôl a trystio cewch eich achub;Wrth aros yn llonydd a chredu y cewch fuddugoliaeth.”Ond dych chi ddim yn fodlon gwneud hynny.
16 “Na,” meddech chi.“Gadewch i ni ddianc ar gefn meirch!” –a dyna wnewch chi.“Gadewch i ni farchogaeth yn gyflym!” –ond bydd y rhai sydd ar eich ôl yn gyflymach!
17 Bydd un gelyn yn bygwth a mil yn dianc;pump yn bygwth a pawb yn dianc.Bydd cyn lleied ar ôl byddan nhw felpolyn fflag ar ben bryn,neu faner ar ben mynydd.
18 Ond mae'r ARGLWYDD wir eisiau bod yn garedig atoch chi;bydd yn siŵr o godi i faddau i chi.Achos mae'r ARGLWYDD yn Dduw cyfiawn;ac mae'r rhai sy'n disgwyl amdano yn cael bendith fawr!
19 Wir i chi bobl Seion – chi sy'n byw yn Jerwsalem – fyddwch chi ddim yn wylo wedyn. Bydd e'n garedig atoch chi pan fyddwch chi'n galw. Bydd e'n ateb yr eiliad mae'n eich clywed chi.