19 Wir i chi bobl Seion – chi sy'n byw yn Jerwsalem – fyddwch chi ddim yn wylo wedyn. Bydd e'n garedig atoch chi pan fyddwch chi'n galw. Bydd e'n ateb yr eiliad mae'n eich clywed chi.
20 Er bod y Meistr wedi rhoi helynt i chi'n fwyd, a dioddefaint yn ddŵr, fydd y Duw sy'n eich tywys ddim yn cuddio mwyach, byddwch yn ei weld yn eich arwain.
21 Wrth wyro i'r dde neu droi i'r chwith, byddwch yn clywed llais y tu ôl i chi'n dweud: “Dyma'r ffordd; ewch y ffordd yma!”
22 Byddwch yn ffieiddio'r delwau wedi eu gorchuddio ag arian, a'r delwau metel gydag aur yn eu gorchuddio. Byddwch yn eu taflu i ffwrdd fel cadach misglwyf, ac yn dweud “Budreddi!”
23 Bydd e'n rhoi glaw i'r had rwyt wedi ei hau yn y pridd, a bydd y tir yn rhoi cnwd da, cyfoethog. Bydd digonedd o borfa i dy anifeiliaid bryd hynny,
24 a bydd yr ychen a'r asynnod sy'n gweithio ar y tir yn cael eu bwydo gyda'r ebran gorau, wedi ei nithio â fforch a rhaw.
25 Bydd nentydd a ffrydiau o ddŵr yn llifo ar bob mynydd a bryn uchel – ar ddiwrnod y lladdfa fawr pan fydd y tyrau amddiffynnol yn syrthio.