24 a bydd yr ychen a'r asynnod sy'n gweithio ar y tir yn cael eu bwydo gyda'r ebran gorau, wedi ei nithio â fforch a rhaw.
25 Bydd nentydd a ffrydiau o ddŵr yn llifo ar bob mynydd a bryn uchel – ar ddiwrnod y lladdfa fawr pan fydd y tyrau amddiffynnol yn syrthio.
26 Bydd y lleuad yn disgleirio fel yr haul, a bydd yr haul yn disgleirio saith gwaith cryfach nag arfer (fel golau saith diwrnod mewn un!) ar y diwrnod pan fydd yr ARGLWYDD yn rhwymo briwiau ei bobl, ac yn iacháu'r anafiadau gawson nhw pan darodd e nhw.
27 Edrychwch! Mae'r ARGLWYDD ei hunyn dod o bell,yn wyllt gynddeiriog,yn corddi o'i fewn.Mae'n siarad yn ddig,a'i eiriau fel tân yn difa.
28 Mae ei dymer fel llifogydd gwylltyn cyrraedd at y gwddf.Bydd yn ysgwyd y cenhedloeddmewn gogr i'w dinistrio,ac yn rhoi ffrwyn yng ngheg pobloeddi'w harwain ar gyfeiliorn.
29 Ond byddwch chi'n canu,fel petai'n noson i ddathlu gŵyl.Byddwch yn llawen ac yn dawnsio i gyfeiliant pibwrth fynd i fynydd yr ARGLWYDD, Craig Israel.
30 Bydd yr ARGLWYDD yn bloeddio'n uchel,a bydd ei fraich gref yn dod i lawrac yn eu taro'n wyllt gynddeiriog,fel fflamau tân yn difa,neu gorwynt, storm a chenllysg.