29 Ond byddwch chi'n canu,fel petai'n noson i ddathlu gŵyl.Byddwch yn llawen ac yn dawnsio i gyfeiliant pibwrth fynd i fynydd yr ARGLWYDD, Craig Israel.
30 Bydd yr ARGLWYDD yn bloeddio'n uchel,a bydd ei fraich gref yn dod i lawrac yn eu taro'n wyllt gynddeiriog,fel fflamau tân yn difa,neu gorwynt, storm a chenllysg.
31 Bydd llais yr ARGLWYDD yn chwalu Asyria,sef y wialen ddefnyddiodd i daro.
32 Bydd yn eu waldio gyda'r pastwn ddewisoddac yn eu curo i gyfeiliant drymiau a thelynau,pan fydd yn mynd allan i ryfel yn eu herbyn.
33 Mae'r goelcerth angladdol wedi ei pharatoi cyn hyn;mae'n barod ar gyfer eu brenin.Mae'r pwll tân yn ddwfn ac yn llydan,ac mae digon o goed i'w tanio.Bydd anadl yr ARGLWYDDfel llif lafa yn dod i'w llosgi.