6 Neges am "Anifeiliaid y Negef":Yn nhir trafferthion a chaledi,gwlad y llewes a'r llew cry,y neidr a'r wiber wibiog,maen nhw'n cario eu cyfoeth ar gefn asynnod,a'u trysorau ar gefn camelod,ar ran pobl sy'n dda i ddim.
7 Mae'r Aifft yn ddiwerth!Dŷn nhw ddim help o gwbl!Felly, dw i'n ei galw hi,“Rahab gysglyd.”
8 Tyrd nawr,Ysgrifenna hi ar lechena'i chofnodi mewn sgrôl,i fod yn dystiolaeth barhaoli'r dyfodol.
9 Achos maen nhw'n bobl anufudd,ac yn blant sy'n twyllo –plant sy'n gwrthod gwrandoar beth mae'r ARGLWYDD yn ei ddysgu.
10 Pobl sy'n dweud wrth y rhai sy'n cael gweledigaethau,“Peidiwch â cheisio gweledigaeth,”ac wrth y proffwydi, “Peidiwch proffwydoa dweud wrthon ni beth sy'n iawn.Dwedwch bethau neis,er ei fod yn gelwydd!
11 Trowch o'r ffordd!Ewch oddi ar y llwybr iawn!Stopiwch ein hatgoffa niam Un Sanctaidd Israel!”
12 Felly, dyma mae Un Sanctaidd Israel yn ei ddweud:Am eich bod wedi gwrthod y neges yma,a dewis rhoi'ch ffydd mewn gormeswr twyllodrus –