6 Blant Israel, trowch yn ôl at yr Un dych chi wedi gwrthryfela mor ddifrifol yn ei erbyn.
7 Bryd hynny bydd pob un ohonoch yn gwrthod yr eilunod o arian ac aur a wnaeth eich dwylo pechadurus.
8 “Bydd Asyria'n cael ei difa,ond nid gan gleddyf dynol;cleddyf Duw fydd yn eu taro.Byddan nhw'n ffoi rhag y cleddyf,ond bydd eu milwyr gorau yn gaethweision.
9 Bydd eu ‛craig‛ yn diflannu mewn dychryn,a'u swyddogion yn ffoi rhag baner eu gelyn.”Dyna mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud –sydd a'i dân yn Seion,a'i ffwrnais yn Jerwsalem.