14 Bydd y palas wedi ei adael,a'r ddinas boblog yn wag.Bydd y tyrau amddiffyn ar y bryniauyn troi'n foelydd am byth –yn gynefin i asynnod gwyllta phorfa i breiddiau.
15 Nes i ysbryd oddi uchod gael ei dywallt arnon ni,i'r anialwch gael ei droi'n gaeau ffrwythlon,a'r caeau droi'n goedwig.
16 Pan fydd cyfiawnder yn aros yn yr anialwcha thegwch yn cartrefu yn y caeau.
17 Bydd cyfiawnder yn arwain i heddwch,ac wedyn bydd llonydd a diogelwch am byth.
18 Bydd fy mhobl yn byw mewn cymunedau saff,tai diogel, a lleoedd i orffwys yn dawel.
19 Er i'r goedwig gael ei thorri i lawr gan genllysgac i'r ddinas orwedd mewn cywilydd,
20 y fath fendith fydd i chi sy'n hau wrth ffrydiau dŵr,ac yn gollwng yr ych a'r asyn yn rhydd i bori.